Pam ydym ni wedi rhoi adran gyfan i Wasanaethau Cyfreithiol?
Mae hyn oherwydd bod gwefan Gwasanaethau Cyfreithiol yn hynod ddefnyddiol ac yn un o’r gwefannau sy’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol a phenodol sy’n berthnasol i faterion croenddu a lleiafrif ethnig
Pam nad ydym wedi eich cyfeirio yn syth i wefan Gwasanaethau Cyfreithiol?
Mae gwefan y Gwasanaethau Cyfreithiol yn rhagorol, yn fawr ac yn addysgiadol. Er mwyn eich galluogi i gael mynediad at y wybodaeth, rydym wedi paratoi trosolwg i chi. Rydym wedi copïo beth, yn ein barn ni, yw’r adrannau CLlE penodol o’r safle. Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ymwelwch â’r safle Gwasanaethau Cyfreithiol. ae’n werth chweil.
Arolwg Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol
Cynlluniau cymorth cyfreithiol
Corff cyhoeddus gweithredol anadrannol: yw’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol. Fe’i noddir gan Adran Materion Cyfansoddiadol ac fe adolygir eu gwaith gan fwrdd o gomisiynwyr annibynnol. Mae’r Comisiwn yn gyfrifol, ar ran y Llywodraeth am ddau gynllun.
1. Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (CLS)
Mae’r CLS yn cynorthwyo pobl i dderbyn y cyngor safonol y maent angen i fynd i’r afael â’r problemau maent yn eu hwynebu. Dyma eu cyfraniad i frwydro yn erbyn dieithrio cymdeithasol ac i wneud y system cyfiawnder yn un deg, hawdd cael mynediad ato a fforddiadwy i bawb.
Mae’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn dod â chyfreithwyr cymorth cyfreithiol, Canolfan Gyngor, Canolfannau Cyfraith, gwasanaethau awdurdod lleol a sefydliadau eraill mewn rhwydweithiau lleol ynghyd i sicrhau fod pobl yn derbyn gwybodaeth a chyngor ynglyn â’u hawliau cyfreithiol a chymorth gyda’u gorfodi.
2. Gwasanaeth Amddiffyn Cyfiawnder (CDS)
Mae’r Gwasanaeth Amddiffyn Cyfiawnder (CDS) yn helpu pobl sydd dan archwiliad neu yn wynebu cyhuddiadau troseddol trwy sicrhau fod gan y bobl a gyhuddir o droseddau fynediad at gyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth, mae’r CDS hefyd yn helpu'r heddlu a’r llysoedd i weithredu yn deg ac yn effeithlon.
Sut i ddarganfod gwybodaeth gyfreithiol a chymorth
Gallwch gael mynediad at ystod o wasanaethau o’r cysylltiadau canlynol yn cynnwys gwybodaeth am:
How to find legal information and help
Mynediad at Gymorth Cyfreithiol
Mae’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynhyrchu taflenni sy’n rhoi gwybodaeth ymarferol i’r cyhoedd am gymorth cyfreithiol sifil a throseddol. Mae’r taflenni yn egluro sut a phryd y gallwch gael cymorth cyfreithiol.
Gellir cael fersiynau plaen o destun pob taflen ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg fel yn gymwys trwy glicio isod