Mae dyletswydd statudol ar bob corff statudol i ddarparu gwasanaethau cyfieithu a dehongli pan fo’r angen.
Mae’r bobl sydd ond yn siarad ychydig o Saesneg angen dehonglwyr er mwyn defnyddio gwasanaethau iechyd, cyfreithiol, lles cymdeithasol ac addysg. Ymgymerwyd y rhan fwyaf o werthusiadau darpariaeth dehongli o bersbectif darparwr gwasanaeth.
Archwiliodd astudiaeth fanwl gan ymchwilwyr Prifysgol South Bank Llundain, Prifysgol Salford a’r LSE, brofiadau pobl sydd angen dehonglwyr.
Darganfu'r ymchwil fod:
- Pobl sy’n penderfynu dros eu hunain pa lefel o hyfedredd mewn Saesneg sydd angen ar unrhyw adeg benodol, a phwy sydd orau i allu ateb eu gofynion fel dehonglydd. Weithiau teimlent eu bod yn gallu ymdopi eu hunain, weithiau maent yn gofyn am help gan aelod o’r teulu, ffrind neu ddehonglydd proffesiynol. Ystyrir fod cymorth arbenigol yn bwysig mewn achosion meddygol neu gyfreithiol.
- Ystyrir dehonglydd da fel un sydd yn gwneud mwy na newid geiriau i iaith arall. Mae’n well gan bobl ddehonglydd rhagweithiol sy’n gallu empatheiddio gyda hwy., helpu gyda deall gweithdrefnau a phledio eu hachos. Ystyrir personoliaeth, agwedd dibynadwyedd y dehonglydd yn hanfodol bwysig.
- Mae diffyg gwybodaeth ynglyn â phwy sy’n ddehonglydd proffesiynol a sut i gael mynediad at un. Mae hyd yn oed y bobl sydd yn gwybod sut i gael mynediad atynt yn cael trafferth i gael un.
- Cymysg yw profiadau dehonglwyr proffesiynol. Ar yr un llaw gall defnyddwyr eu gwerthfawrogi am eu gwybodaeth o systemau meddygol a chyfreithiol ac yn gallu sefydlu ymddiriedaeth gyda dehonglydd unigol y maent yn dod i’w adnabod dros amser. Ar y llaw arall mae defnyddiwr yn aml yn feirniadol ohonynt , gan deimlo fod darparwyr darpariaeth yn rheoli darpariaeth a bod ganddynt agwedd ddiofalgar neu hyd yn oed yn weithredol yn eu herbyn.
- Gan fwyaf mae’n well gan bobl i deulu neu ffrindiau ddehongli drostynt. Maent yn ymddiried ynddynt oherwydd mae ganddynt berthynas hirhoedlog gyda nhw sy’n cynnwys ymrwymiad emosiynol a theyrngarwch.
Mae’r ymchwilwyr yn dod i’r canlyniad y dylai hyfforddiant mewn hanfodion dehongli fod ar gael yn fwy eang i aelodau cymunedau lleiafrifol ethnig sy’n gweithredu yn rheolaidd fel dehonglwyr ar gyfer aelodau teulu neu ffrindiau.
Mae’r adroddiad llawn, Access to services with interpreters: user views an Claire Alexander, Rosalind Edwards a Bogusia Temple, gyda Usha Kanani, Liu Zhuang, Mohib Miah ac Anita Sam, yn cael ei gyhoeddi gan Joseph Rowntree Foundation (ISBN 1 85935 228 6)