Sut y Gallwn Helpu?- Ffynonellau Cymorth – Materion Ymfudo
Myfyrwyr
Mae’r rheolau ynglyn â gweithio yn y DU yn amrywio ac yn dibynnu ar eich statws mewnfudiad. Er enghraifft, efallai na allwch weithio oherwydd nad oes gennych y visa priodol, neu os gallwch weithio efallai y bydd yn rhaid i chi ymuno â’r Cynllun Cofrestru Gweithwyr, neu efallai y cyfyngir ar y nifer o oriau y gallwch weithio yn ystod amser tymor. Efallai y byddwch hefyd angen rhagor o wybodaeth ar Yswiriant Cenedlaethol, Treth Incwm a sut i chwilio am waith.
Cysylltiadau Defnyddiol
Mae UKCOSA yn rhoi cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y DU ac i’r staff sy’n gweithio gyda nhw. Mae pob prifysgol yn y DU a’r rhan fwyaf o golegau addysg bellach ac uwch sydd â myfyrwyr rhyngwladol yn aelodau o UKCOSA sydd hefyd yn derbyn arian Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth DU. Mae gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr yn rhad ac am ddim.
Mae’r DfES yn datblygu cofrestr o ddarparwyr dysgu a ariennir gan gyrff cyhoeddus a ‘r rhai preifat yn Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gellir cael mynediad at y gofrestr darparwyr trwy eu gwefan.
Mae’r wefan hon yn cynnwys ffurflenni cais gyda nodiadau arweiniol i gyd fynd â hwy a ddarparwyd gan y Swyddfa Gartref ar gyfer gwahanol fathau o waith, hyfforddiant a chaniatâd lleoliad a roddir gan Work Permits (UK) ar ran y DU.
Cynhyrchwyd y wefan hon gan y Cyngor Prydeinig i helpu myfyrwyr rhyngwladol sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer cwrs neu gymhwyster Y DU.
Mae’r wefan hon yn ymdrin ag ystod eang o wybodaeth yn cynnwys adnoddau ar gyfer cynghorwyr, myfyrwyr a phawb sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a chymunedau. Ceir gwybodaeth am gyfleoedd ariannu ar y safle yma a gan fudiadau eraill a’r safleoedd a restrir. Mae bob amser yn ddefnyddiol derbyn cyngor gan eich cynghorydd agosaf a fydd yn gallu trafod eich sefyllfa chi gyda chi a’ch cynorthwyo i benderfynu beth yw’r cyfleoedd gorau i chi.
Mae’r adran yma o wefan Prifysgol Essex yn cynnwys llawer o wybodaeth a nifer o gysylltiadau defnyddiol.
Mae Oedolion angen Trwydded Teithio safonol i deithio dramor. Mae hwn ar gael i oedolion a phlant 16 a 17 mlwydd oed sydd yn y DU ar amser gwneud cais ac yn meddu ar un o’r dinasyddiaethau canlynol:
Dinesydd Prydeinig
Dinesydd Tiriogaeth Tramor Prydienig
Dinesydd Tramor Prydeinig
Deiliad Prydieinig
Buasem yn ddiolchgar am unrhyw awgrym ynglyn â gwefannau diddorol eraill. Cysylltwch â nit yma.