North Wales Race Equality Network
Sut y Gallwn Helpu? - Ffynonellau Cymorth – Materion Mewnfudiad

Ffoaduriaid

Ffoadur yw person sy’n ffoi ar gyfer diogelwch neu loches, yn enwedig i wlad dramor.

O dan gyfraith ryngwladol , fodd bynnag, mae diffiniad penodol iawn i’r gair ffoadur: un a orfodir i ffoi o’i gartref a’i wlad; sy’n dianc o wlad arall ac sy’n derbyn statws ffoadur gan lywodraeth y wlad newydd. Dim ond llywodraeth gwlad all benderfynu os dylid rhoi statws ffoadur i berson ac maent yn defnyddio Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid 1951.

Cysylltiadau defnyddiol

(NWREN is not responsible for the content of these external sites)

Cyngor Ewropeaidd ar Ffoaduriaid ac Alltudion

Mudiad ymbarél o 73 asiantaeth cymorth-ffoaduriaid mewn 30 gwlad yw ECRE , maent yn gweithio tuag at bolisïau teg a thrugarog ar gyfer ymdriniaeth rhai sy’n chwilio am noddfa a ffoaduriaid. Ceir cysylltiadau da â’r gwasanaethau cyfreithiol.

EIN

Mudiad y sector gwirfoddol yw EIN sy’n arbenigo mewn darparu gwybodaeth ar fewnfudiad a chyfraith ffoadur via y Rhyngrwyd, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Ffoaduriaid ar-lein

Mae Ffoaduriaid ar-lein yn adnodd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu cyfathrebiad a chysylltiadau rhwng cymunedau ffoaduriaid yn y DU. Mae’n cynnwys cysylltiadau ag ystod eang o fudiadau cymunedol a phrosiectau ar draws y DU

Multikulti

Mae gwefan Muliticult yn anelu i gefnogi dinasyddiaeth trwy gyfrwng gwybodaeth ddiwylliannol briodol wedi ei gyfieithu yn gywir yn y meysydd cyfraith lles canlynol - dyled, gwaith, iechyd, tai, mewnfudiad a budd - daliadau lles.

Cyngor Ffoaduriaid Cymraeg yw’r mudiad mwyaf yn y DU sy’n gweithio gydag ymofynyddion noddfa a ffoaduriaid. Mae gan CFfC swyddfa yng ngogledd Cymru

Cyngor Ffoaduriaid Cymraeg, Trinity House, Trinity Street, Wrecsam. LL11 1NL

Ffôn: 01978 363240

Canolfan Gwybodaeth ynglyn â Noddfa a Ffoaduriaid

Mae Canllawiau Mordwyo ICAR yn cymryd pynciau sydd o bryder cyfredol ac o ddiddordeb i’r cyhoedd gan ddarparu gwasanaeth un safle o grynodebau ffeithiau a ffigyrau, materion o bwys, ymchwil a phrosiectau cyfredol ar gyfer y defnyddwyr.

WWW Virtual Library: Perthnasau Ymfudo ac Ethnic

Gellir cael mynediad at y llyfrgell rithwir trwy’r prif safle ac mae’n darparu rhestr gynhwysfawr o bob sefydliad a mudiad sy’n ymwneud ag ymfudo, ffoaduriaid a hiliaeth ar y rhyngrwyd.

Cyngor ar gyfer Helpu Ffoaduriaid Academaidd (CARA)

Mae CARA yn bodoli i gynorthwyo ffoaduriaid academaidd. Eu hamcan yw cynorthwyo athrawon prifysgol neu ymchwilwyr sydd wedi colli eu swyddi o ganlyniad i wahaniaethu gwleidyddol, hiliol neu grefyddol ac yn ffoaduriaid yn y wlad hon.

 

Any suggestions of websites you find interesting would be gratefully received! Just Cysylltu â ni and let us know