Ymofynwyr Noddfa
Mae gan bob person yr hawl i fyw yn rhydd o erledigaeth, neu’r ofn o erledigaeth, sydd wedi ei seilio ar eu hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth mewn gr?p cymdeithasol penodol, neu safbwynt gwleidyddol.
Pan fo llywodraethau yn methu gwarchod yr hawliau hyn, mae gan bobl yr hawl i symud i wlad fyddai yn eu gwarchod. Dyma yw hawl i noddfa..
Ymgeisydd noddfa yw person sy’n hawlio y byddai’n gyferbyniol i oblygiadau'r Deyrnas Unedig o dan Gytundeb a Phrotocol y Cenhedloedd Unedig sy’n berthnasol i statws ffoaduriaid, iddo fo neu hi gael ei symud o’r wlad neu ofyn iddynt adael Y Deyrnas Unedig. O dan y rheolau yma cyfeirir at bob achos o’r math yma fel ceisiadau am noddfa.
Os ydych chi yn meddwl gofyn neu yn y broses o ofyn am noddfa gellir defnyddio'r cysylltiadau canlynol
Cysylltiadau Defnyddiol
(Nid yw NWREN yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd allanol hyn)
Mudiadau Anllywodraetho
Gwefan yw hon a reolir gan gonsortiwm o asiantaethau rhyngwladol sy’n cynorthwyo ymofynywyr noddfa.
Hwn yw’r mudiad mwyaf yn y DU sy’n gweithio gydag ymofynwyr noddfa a ffoaduriaid. Nid yn unig ydynt yn cynnig help ond maent hefyd yn gweithio gydag ymofynywyr noddfa a ffoaduriaid er mwyn sicrhau yr eir i’r afal â’u hanghenion a’u pryderon.
Mae hwn yn safle eang gyda gwybodaeth a chysylltiadau i bynciau perthnasol i iechyd ar gyfer ymofynywyr noddfa a’r bobl broffesiynol sy’n gweithio gyda hwy.
IAS yw’r elusen arweiniol sy’n rhoi cyngor cyfreithiol a gwasanaeth cynrychioliadol rhad ac am ddim i fewnfudwyr ac ymofynywyr noddfa. Mae IAS yn rhoi cyngor a chymorth ynglyn â holl faterion mewnfudiad, noddfa, a chenedligrwydd i’r personau hynny yn y DU a thramor sy’n gymwys i dderbyn Cymorth Cyfreithiol a Chynrychiolaeth Gyfreithiol Reoledig ac maent yn cyflwyno apeliadau yn erbyn penderfyniadau gwrthodiad ar ran pawb sydd â’r hawl i apelio. Gallant fynd â’r achosion i uwch lysoedd trwy gyfrwng apêl ac adolygiad barnwrol.
Mudiad y sector gwirfoddol yw EIN sy’n arbenigo mewn darparu gwybodaeth ar fewnfudiad a chyfraith ffoadur trwy y Rhyngrwyd, yn enwedig yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Sefydlwyd Cymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Mewnfudiad gan grŵp arweiniol o ymarferwyr mewnfudiad y DU ym 1984 er mwyn: hyrwyddo a gwella'r cyngor a’r gynrychiolaeth ar gyfer mewnfudwyr- i ddarparu gwybodaeth ar gyfer aelodau ynglyn â mewnfudiad mewnwladol ac Ewropeaidd, cyfraith ffoadur a chenedligrwydd- a sicrhau cyfraith wrth-hiliol, gwrth-rywiaethol, a system deg a chyfiawn o fewnfudiad a ffoaduriaeth a chenedligrwydd.
Cysylltiadau Llywodraeth DU
Mae’r Gyfarwyddiaeth Mewnfudiad a Chenedligrwydd yn gyfrifol am Reolaeth Mewnfudiad. Maent hefyd yn ystyried ceisiadau am hawl i aros, dinasyddiaeth a noddfa. Bydd y wefan hon yn eich cynorthwyo i ddeall Rheolaeth Mewnfudo DU a beth yw eich hawliau a’ch cyfrifoldebau wrth wneud cais
Mae NASS yn ystyried pa un ai yw ymgeisydd neu rhai sy'n dibynnu arnynt yn diwallu prawf amddifadrwydd fel ei gosodir yn y ddeddfwriaeth ac yna i ba raddau y dylid darparu cefnogaeth. Os yw NASS yn gwrthod darparu cefnogaeth, neu wedi iddynt roi cefnogaeth, fod NASS yn penderfynu ei atal neu ei gilio, gall ymofynywyr noddfa apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Mae LSC yn edrych ar ôl cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr. Maent hefyd yn gyfrifol am sicrhau fod pobl yn derbyn y wybodaeth, cyngor a chymorth cyfreithiol y maent angen i ddelio ag ystod eang o broblemau dydd i ddydd.
Mae’r Swyddfa Dramor a Chyffredin yn darparu rhestr o’r llysgenhatai a chonsyliaethau yn y DU a’u manylion cyswllt ar eu gwefan.
Buasem yn ddiolchgar am unrhyw awgrym ynglyn â gwefannau diddorol eraill. Cysylltwch â ni yma
Any suggestions of websites you find interesting would be gratefully received! Just Cysylltu â ni and let us know