North Wales Race Equality Network

Ffynonellau Cymorth - Cyflogaeth - Triniaeth Annheg

Beth allaf wneud os wyf yn teimlo fy mod wedi cael fy nhrin yn annheg?

Pan yn y gwaith neu os ydych yn colli eich swydd

Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddiad (Acas )

Mae gan Acas ddyletswydd gyffredinol i hyrwyddo gwellhad mewn cydberthynas cyflogaeth. Gall gyflenwi gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chyngor am ystod eang o faterion cyflogaeth. Gall gyflogwyr a gweithwyr ofyn am gymorth gan Acas i gynorthwyo i ddatrys anghydfodau. Yn y rhan fwyaf o achosion pan fo gan weithwyr neu undebau llafur gwyn yn erbyn cyflogwr ble y gallant neu eu bod wedi mynd â’r gwyn gerbron tribiwnlys, gall cymodwr Acas gynorthwyo'r carfanau i geisio datrys yr achos heb yr angen i fynd i wrandawiad tribiwnlys.

Mae Acas yn anelu i wella sefydliadau a bywyd gwaith trwy gyfrwng gwell cydberthynas cyflogaeth . Maent yn darparu gwybodaeth gyfredol, cyngor annibynnol, hyfforddiant a gwaith o safon uchel gyda chyflogwyr a gweithwyr i ddatrys problemau a gwella perfformans.

Mae Cynllun Cyflafareddiad Acas yn darparu dewis gwirfoddol gwbl wahanol i wrandawiad tribiwnlys cyflogaeth yn achosion diswyddiad annheg neu weithio hyblyg. Mae cyflafareddiad yn ffordd effeithiol o ddatrys anghydfod ble mae penderfyniad canolwr yn orfodol dan y gyfraith ac yn cael yr un effaith â barn llys.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu safle. .

Mae’r canlynol yn safle BBC ddefnyddiol ac ynghyd â safle ACAS mae’n ymdrin â hawliau Diswyddiad annheg a gweithrediadau.

Mae gan y DTI safle sy’n ymdrin â holl agweddau cydraddoldeb ac amrywiaeth a hefyd deddwriaeth hil a ffydd.

Gwefan yr Undebau Llafur yw hon sy’n eich cysylltu â’r adran ynglyn â hawliau gweithwyr:

Gwefan yr Undebau Llafur yw hon sy’n eich cysylltu â’r adran ynglyn â hawliau gweithwyr:

Cofiwch gallwch bob amser gael gwybodaeth a chyngor o’r Comiswin Gwasanaethau Cyfreithiol a gan Y Ganolfan Gynghori