Cael gwaith a phroblemau cyflogaeth
Unwaith y byddwch yn deall y rheolau sy’n ymwneud â’ch hawl i weithio (gweler Gallai weithio yma?) yna fe fydd angen i chi ddarganfod sut i fynd ati i gael swydd. Un o’r sefydliadau a ddefnyddir amlaf i ddarganfod swydd yw’r Gwasanaeth Cyflogi. Asiantaeth y llywodraeth yw hon sydd hefyd yn llwybr uniongyrchol ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith ond sydd angen hawlio budd-dal. Gallwch weld arwydd y Ganolfan waith yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd. Y Canolfannau gwaith yw’r pwynt mynediad ar gyfer y Gwasanaeth Cyflogi. Fodd bynnag mae ffynonellau cymorth eraill ar gael ac fe welwch rhai ohonynt wedi eu rhestru isod.
Chwilio am swydd
Dyma’r cyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Cyflogi:
Safle'r BBC yw’r cyswllt yma sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a chynhwysfawr ynglyn â chael swydd yn cynnwys ceisiadau am swydd a chyfweliadau.
Porth Swydd symudedd Ewropeaidd yw’r canlynol sy’n rhoi cymorth a chyngor ynglyn â chael swydd yn y DU. Mae’r pwynt cyswllt yn mynd â chi i’r dudalen mynegai sy’n caniatáu i chi gael mynediad at ystod o ieithoedd Ewropeaidd.
Gall cael y swydd yr ydych ei heisiau wneud gwahaniaeth mawr. Dyna beth yw ‘Working Links’. Maent yn arbenigo mewn helpu pobl yn ôl i waith ar ôl iddynt fod yn ddi-waith am amser hir. Ac nid dim ond i unrhyw swydd ond swydd fydd yn eich galluogi i gyrraedd lle yr ydych eisiau mewn bywyd.
Papurau Newyddion Lleol
Cyswllt i Bapurau Newyddion yng Nghymru. Dilynwch bwynt cyswllt pob papur i’r adran recriwtio.
Cysylltiadau Newyddion ABYZ
Cysylltiadau i Bapurau newyddion yng Nghymru. Nodir ardaloedd dosbarthiad trwy ardal a thref.
icNorthWales - Y prif safle ar gyfer newyddion, chwaraeon a rhestrau
Prif safle ar gyfer Newyddion, Chwaraeon, Swyddi, Busnes Cymreig a llawer mwy yng Ngogledd Cymru.
Adolygiad y Wasg Byd Eang - Papurau Newyddion a Chylchgronau'r DU/Cymru
anllaw cyflawn i UK/Walesnewspapers a chylchgronau. Mae’r safle yma hefyd yn cysylltu â chyhoeddiadau byd eang.
Papurau Newyddion Gogledd Cymru
Mae’r portffolio yma yn cynnwys Papur newydd yr hwyr gyda thri argraffiad yn ymwneud â Wrecsam, Sir y Fflint a Chaer yn ogystal â phedwar papur i’w prynu a saith papur wythnosol ar draws y rhanbarth. Bydd y cyswllt isod yn mynd â chi yn syth at ddosbarthiad swyddi i’w recriwtio.
Mae’r pwynt cyswllt yma yn mynd â chi i’r holl Bapurau Newydd Gogledd Cymru nad ydynt yn y gr?p uchod .
Prifysgol Bangor - YJobMart
Oherwydd ei bod yn anodd dod o hyd i swydd mewn ardal sy’n ddieithr i chi, maent yn mynd â’r straen allan o’r broses o chwilio am waith trwy ddarpariaeth eu JobMart. JobMart yw biwro cyflogaeth myfyrwyr un pwrpas sy’n eich cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi sy’n eich galluogi i ennill cyflog trwy waith achlysurol neu ran amser yn yr ardal leol. Mae’r JobMart hefyd yn derbyn ac yn hysbysebu swyddi yn ystod tymor y gwyliau a swyddi myfyrwyr graddedig llawn amser sy’n amrywio o gyfleoedd yng ngogledd Cymru i rai byd eang.. Ymholwch yn Undeb y Myfyrwyr.
Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI)
Mae ganddynt gymorth ar gael gan eu Hundeb Myfyrwyr - dilynwch y pwynt cyswllt.
Problemau Cyflogaeth
Gwefan yr Undebau Llafur yw hon sy’n eich cysylltu â’r adran ynglyn â hawliau gweithwyr:
Mae’r wefan BBC ganlynol yn rhoi gwybodaeth ynglyn â’ch hawliau fel gweithiwr yn arbennig yng nghyswllt y Deddfau Hiliol :
Bydd y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am agweddau cyfreithiol gwahaniaethu.
Efallai y gall yr Advisory Conciliation and Arbitration Service (Acas eich cynorthwyo i ddatrys anghydfodau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar eu safle.
Sefydliad annibynnol yw Advice Now sy’n cynnig ystod eang o gyngor ynglyn â materion cyflogaeth
Gallwch gael ystod eang o wybodaeth gan y Ganolfan Gynghori
Busnes newydd a hunan gyflogaetht
Os ydych eisiau gweithio i chi eich hun neu sefydlu eich busnes eich hun bydd y cyswllt canlynol yn eich cynorthwyo i roi pethau ar droed.