Mewnfudiad - Alla i weithio yn y DU?
Os ydych yn meddwl am weithio yn y DU neu eich bod newydd gyrraedd ac yn chwilio am waith, mae’n gallu bod yn anodd deall y rheolau. Mae angen i chi ddeall pa amgylchiadau sy’n berthnasol i chi a’ch hawl i weithio yn y wlad hon. Mae’r rhan yma o’r safle yn canolbwyntio ar eich cysylltu â sefydliadau sy’n gallu eich cynorthwyo i ddeall beth yw eich hawliau a’r cyfyngiadau sy’n berthnasol.
Os ydych yn dod o’r UE neu’r Wladwriaeth Dderbyniadau
Bydd y cyswllt dilynol yn mynd â chi i safle sy’n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr ar wledydd a ddiogelir gan gytundebau a’r hyn sy’n ymwneud â chi a’ch teulu.
Yn dilyn mae Porth Swydd Mudoledd Ewropeaidd sy’n rhoi cymorth a chyngor ar gael gwaith yn y DU. Mae’r cyswllt yn eich arwain at dudalen mynegai sy’n eich caniatáu i fynd i mewn i’r porth mewn ystod o ieithoedd Ewropeaidd
Os ydych yn hanu o wledydd neu wladwriaethau eraill
IOs ydych wedi dod i’r DU o lefydd eraill bydd y rheolau yn fwy cymhleth. Bydd y safleoedd canlynol yn eich cynorthwyo i wneud synnwyr o’r amodau sy’n berthnasol i chi.
Gellir cael mynediad at Gyfarwyddiaeth Mewnlifiad a Chenedligrwydd, sy’n rhan o’r Swyddfa Gartref trwy gyfrwng y cyswllt canlynol.
Mae’r ddolen yma yn eich cysylltu â nifer o safleoedd defnyddiol yn cynnwys safleoedd y Llywodraeth a safleoedd Sefydliadau Anllywodraethol.
Efallai y buasech hefyd yn hoffi fynd i safle Immigration where you might find more information.