North Wales Race Equality Network - Criminal Justice
Sut y gallwn Helpu? - Ffynonellau Cymorth -Cyfiawnder Troseddol

System Cyfiawnder Troseddol (SCT) Lloegr a Chymru

Mae hiliaeth yn anghyfreithlon, ond nid yw hyn yn atal iddo ddigwydd. Nid oes unrhyw reswm pam y dylai unrhyw un gael ei ymosod arno/arni oherwydd pwy ydynt.

Gallwch chi wneud rhywbeth yngl?n â’r peth.

Erbyn hyn mae’n bolisi’r heddlu i ymdrin â hyd yn oed y digwyddiadau ‘lleiaf’ o ddifrif, nid dim ond ymosodiadau corfforol.

Mae ymosodiadau a thrais hiliol yn droseddau troseddol difrifol ac fe ddylech ystyried ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd i chi. Nid oes unrhyw reswm pam y dylech fyth ddioddef ymosodiadau oherwydd pwy yr ydych, ac mae gan y System Cyfiawnder Troseddol bwerau o dan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 i’ch helpu.

Rydym wedi cynllunio'r adran yma gan roi ystyriaeth benodol i’ch pryderon a rhoi'r gefnogaeth a’r wybodaeth yr ydych angen i ddeall a llywio eich ffordd trwy'r System Cyfiawnder Troseddol.

Y SCT yw un o brif wasanaethau cyhoeddus yn y wlad. Mae’n cynnwys asiantaethau fel Heddlu, Llysoedd, Gwasanaeth Erlid y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Profiannaeth Prawf, Mae’r holl asiantaethau hyn yn cyd weithio i drosglwyddo'r broses cyfiawnder troseddol.

Arolygir gwaith yr asiantaethau yma gan dair adran lywodraethol; Y Swyddfa Gartref, Swyddfa’r Twrnai Gwladol, a’r Adran ar gyfer Materion Cyfansoddiadol.

Oni bai eich bod yn gyfarwydd â’r System Cyfiawnder Troseddol nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i’ch ffordd o amgylch y system.

Nid yw chwaith yn hawdd deall y prosesau cyfreithiol a chyfathrebiad rhwng y gwahanol asiantaethau.

Rydym wedi ymdrin â’r broblem mewn dwy ffordd: -

  • Trwy ddarparu cysylltiadau i byrth sy’n ymdrin â’r system cyfiawnder troseddol yn gyffredinol.
  • Trwy ddarparu gwasanaeth uniongyrchol i chi am bob un o’r asiantaethau sy’n ymglymedig ar lefel mwy lleol. Er enghraifft mae adran yr heddlu yn cynnwys manylion cyswllt holl Reolwyr Rowndiau Cymunedol Gogledd Cymru.

 

Cysylltiadau Cyffredinol

System Cyfiawnder Troseddol

YFe gewch weld Croeso i Archwiliad Rhaglen Rithwir Canllaw i Gyfiawnder Troseddol ar gyfer Dioddefwr :

Fodd bynnag byddwch yn barod am amser llwytho i lawr sylweddol . Fel arall gallwch fynychu’r cysylltiadau ar ochr chwith eu tudalen ar gyfer fersiwn testun.

 

Plismona

Cewch wybodaeth eithaf manwl ar rôl yr Heddlu ar y safle BBC hwn:

 

Y Llysoedd

Mae’r cynllun yma o’r system llysoedd yn dangos i chi sut y mae pob llys yn perthyn i’r llall. Er enghraifft, os yw achos yn cychwyn mewn Llys Sirol mae’r saeth yn dangos i chi y gall fynd i Lys y Goron neu Uwch Lys neu i’r Llys Apêl.

 

Cymorth

Cymorth Dioddefwr - 0845 30 30 900

VMae Cymorth Dioddefwr yn helpu pobl i ymdopi ag effeithiau trosedd. Mae adrannau ar wahân ar gyfer pobl sy’n byw yn Lloegr a Chymru, Yr Alban ac Iwerddon.