Ffynonellau Cymorth - Cyfiawnder Troseddol - Gwasanaeth Erlyniad y Goron
Pan fydd rhywun yn cael eu harestio oherwydd trosedd troseddol, nid yw’n golygu bod yn rhaid iddynt fynd i’r llys ac yna garchar yn awtomatig. Mae’r heddlu yn casglu tystiolaeth i brofi bod unigolyn wedi cyflawni'r drosedd. Os na all yr heddlu gael digon o wybodaeth yna mae’n eithaf tebyg y gallant gael eu gollwng.
Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o droseddau troseddol a adroddir yn Lloegr a Chymru gan y GEG. Bydd y GEG yn cynghori yngl?n ag, ac adolygu'r achosion i gyd cyn penderfynu pa un ai i fynd ymlaen ai peidio ac yna cynnal erlyniad yr achosion Llysoedd yr Ynadon neu yn Llys y Goron.
Amcanion Gwasanaeth Erlyniadau y Goron
Mae’r GEG yn anelu i :
- sicrhau erlyniad teg ar gyfer troseddwyr troseddol honedig yn Lloegr a Chymru.
- rhoi cyngor i’r heddlu am erlyniadau posib. .
- sicrhau bod y diffinyddion yn cael eu herlid am y cyhuddiadau cywir
Mae hyn yn golygu ail adolygu pob cyhuddiad a ddygwyd iddynt gan yr heddlu ac unwaith yn fodlon, gallant ddechrau paratoi'r achos hwnnw ar gyfer y llys.
Os yw achos penodol yn mynd i’r Llys Ynadon yna bydd y GEG yn mynd ymlaen i erlid, ond os tybir bod yr achos yn un digon difrifol ar gyfer Llys y Goron neu uwch, yna bydd y GEG yn rhoi cyfarwyddiadau a chynghori cyfreithiwr yn hytrach nag erlid.
Mae’r GEG hefyd yn cydweithredu gydag asiantaethau gorfodaeth eraill i wella effeithiolrwydd ac effeithlonedd cyflawn y system cyfiawnder troseddol.
Mae’r Gwasanaeth Erlyniadau y Goron yn gweithredu o dan strwythur 42 Ardal ddaearyddol yn Lloegr a Chymru. Mae’r Ardaloedd hyn yn cyfateb i derfynau 43 o luoedd yr heddlu yn Lloegr a Chymru. Arweinir pob un o’r 42 ardal gan Brif Erlynydd y Goron sy’n goruchwylio ei dîm/thîm o gyfreithwyr ac sydd hefyd yn arolygu canghennau llai'r GEG oddi fewn yr ardal honno.
Am ragor o fanylion am Wasanaeth Llys y Goron defnyddiwch y cysylltiadau canlynol os gwelwch yn dda