North Wales Race Equality Network - Criminal Justice
Sut y gallwn Helpu? Ffynonellau cymorth - Cyfiawnder Troseddol - Llysoedd Trosedd

Gall y system gyfreithiol yn y D.U. ymddangos yn un fawr, brawychus a chymhleth iawn.

Mae Cyfiawnder troseddol ac Achos Troseddol yn cynnwys y Wlad (Y Goron) yn erlid unigolyn am gyflawni trosedd honedig yn erbyn cymdeithas fel cyfanwaith.

Mae strwythur sylfaenol y system gyfreithiol oddi fewn i Loegr a Chymru yn cynnwys Llys Ynadon, sy’n ymdrin â’r rhan fwyaf o droseddau bach a dibwys a Llys y Goron sy’n ymdrin â’r holl achosion troseddol sy’n mynd i sefyll prawf.

Gall Llys y Goron gyflwyno achosion ar gyfer apêl yn y Llys Apêl, ac os yw’r achos yn ymwneud â rhai newidiadau pwysig yn y gyfraith ei hun, yna efallai y bydd yn mynd i D?’r Arglwyddi, y llys uchaf yn Lloegr a Chymru. .

Beth yw Llys Ynadon?

Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o achosion troseddol bychan sy’n derbyn dirwyon, gweithrediadau sifil y gellir ymdrin â hwy heb sefyll prawf ( oddeutu 97%) yn y Llys Ynadon gan ddau neu dri ynad lleyg (aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn derbyn tâl a apwyntir i’r safle ac sy’n derbyn hyfforddiant) neu fe fyddant yn cyfeirio achosion cymhleth i Lysoedd y Goron neu Sirol.

Rheolir y Llysoedd ynadon gan Bwyllgorau Llysoedd Ynadon annibynnol sy’n atebol yn uniongyrchol i’r Arglwydd Ganghellor. Dynodir rhai Llysoedd Ynadon yn benodol i ymdrin ag achosion sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc o dan 18 mlwydd oed. Mae’r Llysoedd Ieuenctid yma yn cynnwys ynadon a hyfforddir yn arbennig, ac yn annhebyg i Lysoedd Ynadon eraill, maent ar gau i’r cyhoedd. Am ragor o fanylion am lys ynadon cliciwch yma.

Cysylltiadau

 

Llysoedd y Goron

Er bod y rhan fwyaf o achosion troseddol yn cychwyn yn y Llys Ynadon, mae Llys y Goron yn llywyddu dros achosion mwy difrifol megis dwyn, llofruddiaeth neu drais rhywiol.

Llysoedd y Goron sy’n ymdrin â’r achosion mwyaf difrifol a arfarnir gan farnwr a rheithgor. click here

Ar gyfartaledd mae’n rhaid i’r diffinyddion aros oddeutu tri mis i’w hachos ddod i brawf a bydd yr arhosiad yma weithiau yn y ddalfa. Yr amser cyfartalog a gymerir i gynnal prawf yw oddeutu un a hanner diwrnod llys. Ar gyfartaledd mae oddeutu 120,000 0 ddiffinyddion yn flynyddol, a bydd oddeutu chwarter ohonynt yn pledio’n ddieuog.

Os euog fernir rhywun o drosedd a bod person hwnnw yn teimlo ei f/bod wedi ei g/chyhuddo ar gam neu yn dymuno newid ei ddedfryd, gall apelio yn dibynnu ym mha lys y’i barnwyd yn euog.

Y Gwasanaeth Erlyniad y Goron sy’n erlid y rhan fwyaf o achosion troseddol a wrandewir yn llysoedd ynadon a Llysoedd y Goron.

Gwybodaeth Bellach

Ar wefan Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi gallwch ddod o hyd i :

A diagram of the Court structure can be found here :

XHIBIT enables the public to view a hearing’s progress via the Internet and on public display screens in the court building.

 

Ffurflenni ac Arweiniad Llys

  • Cliciwch yma am wybodaeth am ffurflenni llys ac arweiniad cyffredinol

 

Map

Cliciwch yma am gynllun o’r system llys sy’n dangos i chi sut mae pob llys yn cysylltu â’r llall. Er enghraifft os yw’r achos yn cychwyn yn y Llys Sirol bydd y saeth yn dangos i chi y gall fynd un ai i Lys y Goron neu’r Uwch Lys neu’r Llys Apêl.

 

Cysylltiadau Cyffredino