Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth
Os oes gen i broblem ble mae fy mhwynt cyswllt?
Er fod yna ystod eang o wasanaethau cynghori ar gael yn genedlaethol ac oddi fewn i ogledd Cymru, nid yw bob amser yn hawdd i ddarganfod pwy all ymdrin â’ch problem pendol chi orau.
Un o amcanion yr adran yma yw:
- rhoi gwybodaeth ymarferol, dibynadwy, cyfredol ar flaenau eich bysedd
- cynnwys ystod eang o bynciau
- cyfeirio at ffynonellau dibynadwy o gyngor pan fyddwch angen rhagor o wybodaeth
- cynnwys y DU ond canolbwyntio ar ogledd Cymru
Rydym wedi dewis meysydd y teimlwn a fuasai o ddefnydd mwyaf i chi ac ychwanegu cyfeiriadur cyffredinol o Wasanaethau Cynghori. Rydym wedi ceisio bod mor gryno â phosib gyda’n cyflwyniadau gan ganolbwyntio ar roi dolenau cyswllt i chi gael mynediad haws at y wybodaeth. Ble’n bosib rydym wedi cynnwys cysylltiadau lleol, manylion cyswllt ac oriau agor.