|
|
![]() |
||||
|
Sut y gallwn helpu? - Ynglyn â Hiliaeth
Mae NWREN yn y safle unigryw o fod yn gysylltiedig â’r ystod ehangaf o rwydweithiau Croenddu a Lleiafrif Ethnig yng Ngogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o sefydliadau sy’n gallu bod o gymorth i unigolion sydd â materion neu broblemau sy’n berthnasol i CLlE. Gallwch gysylltu â ni neu gallwch ddefnyddio ein gwefan i gysylltu â’r holl ffynonellau cymorth yr ydym yn eu disgrifio Yn yr adran arbennig yma byddwch yn dod o hyd i gysylltiadau â gwybodaeth ar Hiliaeth yn cynnwys diffiniadau o Wahaniaethu Hiliol ac Aflonyddu Hiliol ac hefyd Ffynonellau Cymorth eraill a fydd yn ddefnyddiol i chi. Digwyddiad hiliol yw unrhyw ddigwyddiad a ystyrir yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall. Mae’r profiad o hiliaeth wedi dod yn rhan o brofiad dydd i ddydd yng nghyswllt rhai pobl croenddu a lleiafrif ethnig yng ngogledd Cymru. I raddau helaeth mae pobl yn ystyried digwyddiadau o gael eu gwneud i deimlo yn wahanol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cymdeithasol a lleoliadau yn arferiad, ac mewn rhai achlysuron fe’u disgwylir. Mae gwahaniaethu ac aflonyddu a seilir ar hil neu grefydd yn anghyfreithlon. Nid oes yn rhaid i chi ddioddef camdriniaeth hiliol neu grefyddol.
Beth yw digwyddiad hiliol?“…..unrhyw ddigwyddiad a ystyrir yn hiliol gan y dioddefwr neu unrhyw berson arall.”
Beth yw digwyddiad crefyddol?
Gallasai enghreifftiau o ddigwyddiadau hiliol/crefyddol gynnwys :
Ni roi’r gwybod am y rhan fwyaf o ddigwyddiadau hiliol/crefyddol. Mae hyn yn rhwystro gweithredu effeithiol. Rydym angen gwybod y nifer , math ac ystod y digwyddiadau hiliol yng Ngogledd Cymru. Fe ddengys hyn i ni ble mae’r problemau a’n cynorthwyo i ymgyrchu am wellhad yn y gwasanaethau sy’n ymdrin â digwyddiadau hiliol. Gadewch i ni wybod am bob digwyddiad hiliol os gwelwch yn dda , hyd yn oed y rhai nad ydynt yn ymddangos yn ddifrifol er mwyn ein cynorthwyo gydag ein gwaith Sut allaf roi gwybod am ddigwyddiad?
Beth fydd yn digwydd nesaf?
|
|||||
|
|||||