North Wales Race Equality Network
Sut y gallwn Helpu? – Ynglyn â Hiliaeth – Y Ddeddf Hiliaeth

Mae Deddfau Cydraddoldeb Hiliol yn ddogfennau hir felly rydym yn eich cyfeirio at wefan y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol (CGE) ble y gallwch weld a llwytho i lawr y dogfennau.

Ble allaf ddarganfod wybodaeth am y Gyfraith?

Mae rhai rhannau o ddeddfwriaeth pwysig sy’n berthnasol i faterion hiliaeth.

Rhain yw:

Gellir cael gwybodaeth ynglyn â’r rhain gyda chymorth pellach, cyngor ac arweiniad ar Wefan Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol

el arall gellir cael yr holl wybodaeth uchod ar wefan y Swyddfa Gartref

 

Y ddyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol

Mae’r dyfyniad canlynol yn dod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol: -

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb Hiliol diwygiedig yn rhoi dyletswydd statudol cyffredinol ar dros 300 o awdurdodau lleol a restrir yn atodlen A1 o’r Ddeddf. Mae’r awdurdodau yma yn cynnwys adrannau’r llywodraeth, Gweinyddiaeth yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y GIC, awdurdodau lleol, cyrff llywodraethol, ysgolion a cholegau a ariennir yn gyhoeddus, y Gorfforaeth Letya, Tai'r Alban ac awdurdodau'r heddlu.

Mae’r ddyletswydd yn golygu, ym mhopeth y maent yn ei wneud, fod yn rhaid i’r awdurdodau rhestredig hyn roi sylw priodol i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfleoedd cyfartal
  • hyrwyddo perthynas dda rhwng pobl sy’n hanu o grwpiau hiliol gwahanol

Er mwyn diwallu'r ddyletswydd dylai’r awdurdodau rhestredig sicrhau eu bod yn cymryd y camau sydd angen i sicrhau nad yw eu polisïau a’u hymarfer yn creu anfantais i bobl o grwpiau hiliol penodol. Bydd angen iddynt ofyn pa un ai yw eu polisïau yn cael (neu yn debygol o gael) effaith ar gydraddoldeb hiliol.

Os oes gan awdurdod cyhoeddus rhestredig gytundeb neu unrhyw drefniant arall gyda chwmni preifat neu sefydliad gwirfoddol i weithredu unrhyw un o’i swyddogaethau, a bod y ddyletswydd yn ymwneud â’r swyddogaethau hynny, mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod i ateb y ddyletswydd sy’n ymwneud â’r rhwymedigaeth yma. Nid yw oes gan sefydliadau preifat neu wirfoddol y rwymedigaeth yma. Mae awdurdodau rhestredig sy’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn parhau i fod yn gyfrifol am ddiwallu dyletswyddau cyffredinol ac unrhyw ddyletswyddau penodol.

O Ddydd Llun 3ydd o Ragfyr 2001 bydd rhai o’r awdurdodau cyhoeddus rhestredig hefyd ynghlwm i ddyletswyddau penodol sydd wedi eu hanelu i’w cynorthwyo i ddiwallu eu dyletswydd gyffredinol. Mae'r rhain yn cynnwys monitro ethnig o ymarfer cyflogaeth a pharatoi a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Hiliol, sy’n egluro sut mae’r awdurdod yn cynllunio i ddiwallu ei ddyletswydd gyffredinol. Daeth y dyletswyddau yma i rym ar Fai 31 2002.

Gellir cael rhagor o fanylion gan y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol.