North Wales Race Equality Network
Ynglyn â NWREN

Croeso.

Cynlluniwyd yr adnodd gwybodaeth yma i ddiwallu anghenion gwahanol gynulliedfaoedd, er enghraifft, Lleiafrifoedd Croenddu ac Ethnig, Asiantaethau stadudol, y sector gwirfoddol a’r cyhoedd.

Ynddo gallwch

  • Ddarganfod am wahaniaethau hiliol, aflonyddu hiliol, camdriniaeth a thrais
  • Ddarganfod am eich hawliau
  • Rhoi gwybod am ddigwyddiadau a ysgogir gan hiliaeth
  • Edrych am ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
  • Herio hiliaeth trwy ymuno â’n Rhwydwaith

Mae’r wybodaeth ar y safle yma wedi ei theilwrio ar gyfer ardaloedd chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn). Os ydych yn byw y tu allan i’r ardal, gall y byddwch yn parhau i gael y safle yma yn ddefnyddiol.

Gobeithiwn y byddwch, fel unigolyn, yn tybio fod y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn ddiddorol ac addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau ynglyn â’r hyn yr hoffech weld yn cael ei gyhoeddi yma, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Bydd eich adborth yn ein cynorthwyo i ddatblygu ein safle yn un sydd yn ddefnyddiol i’r gynulleidfa ehangaf bosib.

Gobeithiwn hefyd y bydd y safle yn ddefnyddiol i sefydliadau ac asiantaethau sy’n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth i unigolion. Efallai y byddwch yn darganfod dolen gyswllt eich sefydliad ar y safle yma, os oes gennych unrhyw sylwadau neu broblem gyda’r wybodaeth sydd gennym, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Os oes gan eich sefydliad chi unrhyw wybodaeth berthnasol nad ydyw yn cael ei gynrychioli gallwch gyflwyno dolen gyswllt.

Gallwch hefyd gysylltu â ni,unai trwy’r post neu’r ffôn neu trwy ddefnyddio ein e bost.
Sefydlwyd Adnodd Gwybodaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (NWREN) trwy arian a gafwyd gan raglen "Getting Results" Y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.