North Wales Race Equality Network
Ynglyn â NWREN - Beth yr ydym yn ei wneud
  • Annog datblygiad gwaith cydraddoldeb hiliol a gwerth cydberthnasau hiliol yng Ngogledd Cymru.
  • Cefnogi mentrau i herio gwahaniaethu hiliol yn erbyn unigolion a grwpiau.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o effaith hiliaeth a rhagfarn ar fywydau pobl yng Ngogledd Cymru.
  • Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant cydraddoldeb hiliol a chynllunio gweithredu ymhlith sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.
  • Cynyddu'r ymwybyddiaeth o allu pob grwp hiliol i wneud cyfraniad positif i gymuned llwyddiannus ac amrywiol oddi mewn i Ogledd Cymru.

Cefnogir gwaith dydd i ddydd y Rhwydwaith gan dīm bychan wedi ei leoli ym Mhenmaenmawr a rhwydwaith sy'n tyfu o aelodau a gwirfoddolwyr.

Oddi mewn i aelodaeth NWREN, mae llawer o arbenigedd ac mae'n nod gan y Rhwydwaith i fod yn bwynt canolog ar gyfer cytgord hiliol oddi mewn i Ogledd Cymru (ardaloedd y chwe awdurdod lleol) ac i ddarparu fforwm i hyrwyddo cytgord hiliol a herio hiliaeth.

Mae NWREN mewn safle delfrydol i hyrwyddo safbwyntiau CLlE sydd ā'u nod o roi gwybod am, a dwysau ymwybyddiaeth ymhlith Awdurdodau Statudol a sefydliadau gwirfoddol.

Mae ein strategaeth cynnig yn cynyddu'n gyflym ein ffynonellau gwybodaeth a chyngor ac rydym yn datblygu cefnogaeth addysgiadol i'r rhai sy'n brwydro i godi ymwybyddiaeth o'r buddion a'r effeithiau o amrywiaeth hil a diwylliant. Am ragor o fanylion am ein gwaith edrychwch ar ein tudalen Prosiectau os gwelwch yn dda.

Os ydych yn dymuno cyfrannu i'r gwaith a wnawn gallwch glicio ar Dod yn Aelod er mwyn cael yr holl wybodaeth yr ydych ei angen.